Rydym yn creu panel ymchwil defnyddwyr ac yn chwilio am bobl i gofrestru sydd wedi gwneud cais am drwydded forol yn y gorffennol.

 

Grŵp o wirfoddolwyr yw’r panel, sy'n cytuno i roi adborth ar wasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru o bryd i'w gilydd.

 

Drwy ymuno â'r panel, byddwch yn helpu i wella sut y bydd pobl yn gwneud cais am drwyddedau morol yn y dyfodol.

 

Os ymunwch, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i:

  • gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein
  • rhoi ffurflen neu wasanaeth ar-lein newydd ar brawf
  • ateb arolwg ar-lein

Gallwch benderfynu bob tro a ddymunwch gymryd rhan.

 

Mae cymryd rhan yn wirfoddol, gallwch ymuno neu ddad-danysgrifio o'r panel ar unrhyw adeg. Ni fydd cymryd rhan yn effeithio ar unrhyw geisiadau neu benderfyniadau presennol, na rhai yn y dyfodol, sy’n ymwneud â thrwyddedau.

 

Bydd eich adborth yn helpu i:

  • wneud gwasanaethau'n gliriach ac yn haws i'w defnyddio
  • rhoi gwelliannau ar brawf cyn iddynt gael eu cyflwyno
  • lleihau cymhlethdod diangen

Er mwyn i ni allu eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sydd fwyaf perthnasol i chi, efallai y byddwn hefyd yn casglu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am eich rôl a'r trwyddedau morol rydych chi wedi gwneud cais amdanynt yn y gorffennol.

 

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd (yn agor mewn tab newydd)